Neidio i'r cynnwys

Mae'ch porwr Gwe wedi dyddio ac nid yw'n cefnogi pob nodwedd y wefan hon. Dysgu mwy

Telerau a Phreifatrwydd

Telerau Defnyddio

Croeso!

Pwrpas y wefan hon yw helpu chi i ddysgu mwy am Dduw, y Beibl, a Thystion Jehofa. Cewch ddarllen, gwylio, a lawrlwytho’r cynnwys sydd o ddiddordeb i chi. Dymunwn i eraill fanteisio ar ein gwefan hefyd, ac felly peidiwch ag ailgynhyrchu’r cynnwys a’i roi ar wefan neu ar raglen arall. Cewch rannu’r hyn rydych wedi dysgu drwy gyfeirio eraill at y wefan hon fel amlygir yn y Telerau Defnyddio isod.

Hawlfraint

© 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania, Inc. Cedwir pob hawl.

Cyhoeddir a chynhelir y wefan hon gan Watchtower Bible and Tract Society of New York, Inc. (“Watchtower”). Oni nodir fel arall, mae pob testun a gwybodaeth arall ar y wefan hon yn eiddo deallusol Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania (“Watch Tower”).

Nodau Masnach

Mae Adobe, logo Adobe, Acrobat, a logo Acrobat yn nodau masnach Adobe Systems Incorporated. Mae iTunes ac iPod yn nodau masnach Apple Inc. Mae Microsoft, logo Microsoft, yn ogystal ag enwau unrhyw feddalwedd Microsoft a’i gynnyrch, gan gynnwys Microsoft Office a Microsoft Office 365, yn nodau masnach Microsoft Inc. Mae pob nod masnach arall a phob nod masnach gofrestredig yn eiddo i’w dalwyr priodol.

Telerau Defnyddio a Thrwydded i Ddefnyddio’r Wefan

Mae Telerau Defnyddio yn rheoli eich defnydd o’r wefan hon. Wrth ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y Telerau Defnyddio hyn ynghyd ag unrhyw Delerau Defnyddio Ychwanegol (yn dorfol, “Telerau Defnyddio”) a nodir ar y wefan hon, yn llawn. Os ydych yn anghytuno â’r Telerau Defnyddio hyn neu unrhyw ran o’r Telerau Defnyddio hyn, yna ni ddylech chi ddefnyddio’r wefan hon.

Beth yw defnydd priodol? Ar wahân i’r cyfyngiadau a amlinellir isod, cewch:

  • Gwylio, lawrlwytho, ac argraffu lluniau sydd â hawlfraint Watch Tower, cyhoeddiadau electroneg, cerddoriaeth, ffotograffau, testun, a fideos oddi ar y wefan hon ar gyfer eich defnydd personol ac ar gyfer pwrpas anfasnachol.
  • Rhannu cysylltiadau at gopïau electroneg o gyhoeddiadau sydd ar gael i’w lawrlwytho, fideos, neu raglenni sain oddi ar y wefan hon.

Ni chewch chi:

  • Postio lluniau, cyhoeddiadau electronig, nodau masnach, cerddoriaeth, ffotograffau, fideos, neu erthyglau oddi ar y wefan hon ar y We (unrhyw wefan, wefan sy’n rhannu ffeiliau, wefan sy’n rhannu fideos, neu unrhyw rwydwaith cymdeithasol)
  • Dosbarthu lluniau, cyhoeddiadau electronig, nodau masnach, cerddoriaeth, ffotograffau, fideos oddi ar y wefan hon gyda neu fel rhan o raglen meddalwedd (gan gynnwys llwytho i fyny deunydd ar weinydd er mwyn cael eu defnyddio gan raglen meddalwedd).
  • Ailgynhyrchu, dyblygu, copïo, dosbarthu, neu gam-fanteisio mewn unrhyw ffordd unrhyw lun, cyhoeddiad electronig, nod masnach, cerddoriaeth, ffotograff, testun, neu fideo oddi ar y wefan hon ar gyfer pwrpas masnachol neu ar gyfer pwrpas ariannol (hyd yn oed os nad oes elw yn cael ei wneud).
  • Creu unrhyw raglen meddalwedd er mwyn dosbarthu, neu unrhyw offeryn, neu dechnegau gyda’r bwriad o gasglu data, copïo data, lawrlwytho data, echdynnu data, cywain data, a chrafu data, delweddau HTML, delweddau, neu destun oddi ar y wefan hon. (Nid yw’n gwahardd dosbarthu yn rhad ac am ddim, raglenni anfasnachol wedi eu cynllunio i lawrlwytho ffeiliau electroneg fel EPUB, PDF, a ffeiliau MP4 o safleoedd cyhoeddus y wefan.)
  • Camddefnyddio’r wefan na’i gwasanaethau, fel ymyrryd â’r wefan neu gael gafael ar y wefan neu ei gwasanaethau gan ddefnyddio dulliau nad yw wedi eu mynegi’n benodol.
  • Defnyddio’r wefan hon mewn unrhyw ffordd a fydd yn achosi, neu a fydd yn bosibl i achosi, difrod i’r wefan neu yn amharu ar argaeledd neu hygyrchedd y wefan; neu mewn unrhyw ffordd sydd yn anghyfreithlon, twyllodrus, neu yn niweidiol, neu mewn unrhyw weithgaredd neu bwrpas sy’n anghyfreithlon, twyllodrus, neu sydd yn niweidiol.
  • Defnyddio’r wefan hon neu unrhyw lun, neu’r cyhoeddiadau electronig, nodau masnach, cerddoriaeth, ffotograffau, testun, neu fideos ar gyfer unrhyw beth sy’n ymwneud â marchnata.

Mae'r wefan hon yn defnyddio gwasanaethau Google Maps sydd yn wasanaeth trydydd parti nad ydym yn rheoli. Mae'ch defnydd o Google Maps ar y wefan hon o dan y telerau canlynol: Google Maps/Google Earth Additional Terms of Service. Nid ydym yn cael gwybod am ddiweddariadau i Delerau Gwasanaeth, felly, adloygwch y telerau cyn defnddio gwasanaethau Google Maps. Peidiwch â defnyddio gwasanaethau Google Maps os nad ydych yn derbyn y Telerau Gwasanaeth. Does dim data defnyddiwr yn cael eu dychwelyd i'r wefan hon gan Google Maps.

Adran Feddygol

Diben cynnwys adran feddygol y wefan hon (“Adran Feddygol”) yw darparu gwybodaeth yn unig ac nid i greu cyngor meddygol, ac nid yw’n cymryd lle cyngor meddygol proffesiynol, barn feddygol, na thriniaeth feddygol. Nid yw’r Adran Feddygol yn cymeradwyo nac yn cefnogi unrhyw brawf penodol, meddyg, cynnyrch, barn, neu unrhyw wybodaeth arall a grybwyllwyd yn yr Adran Feddygol.

Ewch at feddyg neu at ddarparwr gofal iechyd sydd â chymwysterau proffesiynol os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â chyflwr meddygol neu driniaeth.

Ymgeisiwyd i gynnwys gwybodaeth gywir a diweddaraf yn yr Adran Feddygol. Er hynny, darperir y wybodaeth yn yr Adran Feddygol ichi gyrchu “FEL Y MAE” heb warant, naill ai wedi’i mynegi neu wedi’i hawgrymu. Mae’r wefan hon yn ymwrthod â phob gwarant sydd wedi’i mynegi neu wedi’i hawgrymu yn gyswllt â’r Adran Feddygol gan gynnwys, ond nid yn gyfyng i’r, gwarantau awgrymedig marchnadwyedd a bod yn addas i’r pwrpas. Nid yw’r wefan hon yn gwarantu i ddibynadwyedd, i gywirdeb, i amseroldeb, i ddefnyddioldeb, nac i gyflawnder y wybodaeth a gyrchwyd trwy’r Adran Feddygol. Nid yw’r wefan hon yn derbyn unrhyw atebolrwydd na chyfrifoldeb unrhyw gamgymeriad neu wall yng nghynnwys yr Adran Feddygol. Ar eich cyfrifoldeb eich hun yr ydych yn dibynnu ar unrhyw wybodaeth o fewn yr Adran Feddygol. Dim o dan unrhyw amod ydy’r wefan hon yn atebol i unrhyw hawliadau a iawndal (gan gynnwys, ond nid yn gyfyng i, iawndal boed hynny’n anuniongyrchol neu yn achlysurol, anaf personol/marwolaeth ar gam, colled elw, neu iawndal o ganlyniad i golli data neu doriad mewn busnes) o ganlyniad i ddefnyddio neu fethu defnyddio’r Adran Feddygol, boed yr iawndal a’r hawliadau yn seiliedig ar warant, cytundeb, camwedd, neu unrhyw ddamcaniaeth gyfreithiol, boed hynny ddim ar y wefan hon neu fod cyngor yn awgrymu posibilrwydd o hawliadau neu iawndal.

Ymwadiad Gwarant a Chyfyngiad ar Atebolrwydd

Mae’r wefan hon a’r holl wybodaeth, cynnwys, deunydd, a’r adnoddau eraill sydd ar gael i chi drwy’r wefan hon wedi’u darparu gan Watchtower “fel y mae.” Nid yw Watchtower yn datgan unrhyw sylwadau na gwarant wedi’u hawgrymu.

Nid yw Watchtower yn gwarantu bod y wefan hon heb firws na heb gydran niweidiol. Ni fydd Watchtower yn atebol i unrhyw iawndal o unrhyw fath o ganlyniad i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, neu o unrhyw wybodaeth, cynnwys, deunydd, neu unrhyw wasanaeth sydd ar gael drwy’r wefan gan gynnwys, ond nid yn gyfyng i iawndal boed hynny’n uniongyrchol, anuniongyrchol, achlysurol, cosbol, a chanlyniadol.

Torri Telerau Defnyddio

Heb newid nac amharu ar hawliau eraill Watchtower o dan y Telerau Defnyddio hyn, os ydych chi’n torri’r Termau Defnyddio hyn mewn unrhyw ffordd, bydd gan Watchtower yr hawl i ddewis pa gamau priodol i gymryd wrth ddelio â’r toriad, gan gynnwys atal eich hawl mynediad i’r wefan, gwahardd eich mynediad i’r wefan, rhwystro eich mynediad i’r wefan gan gyfrifiaduron sy’n defnyddio eich cyfeiriad IP, cysylltu â’ch darparwr gwasanaeth Rhyngrwyd a gofyn iddyn nhw rwystro eich mynediad i’r wefan a chymryd/neu gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn chi.

Amrywiad

Mae gan Watchtower yr hawl i newid y Telerau Defnyddio hyn o bryd i’w gilydd. Bydd y Telerau Defnyddio diwygiedig o ddefnyddio’r wefan hon yn berthnasol o’r dyddiad y cyhoeddir y Telerau Defnyddio diwygiedig ar y wefan hon. Tarwch olwg, os gwelwch yn dda, yn rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r fersiwn diweddaraf.

Cyfraith ac Awdurdodaeth

Mae’r Telerau Defnyddio hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn ôl deddfau Talaith Efrog Newydd, UDA, heb ystyried gwrthdaro â’r trefniadau cyfreithiol. Bydd unrhyw gamau cyfreithiol sy’n berthnasol i’r Telerau Defnyddio hyn yn dod gerbron y dalaith neu lys ffederal gydag awdurdodaeth yn Nhalaith Efrog Newydd, UDA.

Torri’r Cyswllt

Os penderfynir llys o awdurdodaeth gymwys fod darpariaeth y Telerau Defnyddio hyn yn ddiawdurdod, yn annilys, yn amhosibl i’w gweithredu, neu yn anghyfreithlon, yna bydd y darpariaethau eraill yn parhau i weithredu. Ni ellir ystyried ac ni ellir dehongli fod methiant Watchtower i orfodi unrhyw ddarpariaeth yn y Telerau Defnyddio hyn fel ildio’r hawl o unrhyw ddarpariaeth neu’r hawl i orfodi unrhyw un o’r darpariaethau hynny.

Cytundeb Llawn

Mae’r Telerau Defnyddio hyn yn cynrychioli’r cytundeb llawn rhyngoch chi a Watchtower sy’n berthnasol i’ch defnydd o’r wefan hon, ac yn disodli pob cytundeb cynharach sy’n berthnasol â’ch defnydd o’r wefan hon.

Gweler Telerau Ychwanegol Defnyddio sy'n ymwneud â'ch cyfrif mewngofnodi.